Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
25 Ebrill 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4978
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 2 gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar ôl cwestiwn 2.
Cododd David Melding Bwynt o Drefn o dan Reol Sefydlog 6.15 a Rheol Sefydlog 12.50 ynghylch y Llywodraeth yn cyhoeddi adolygiad o gyflenwad o dai fforddiadwy drwy ddatganiad ysgrifenedig. Cyfeiriodd at ardystiadau gan sefydliadau polisi tai, a roddwyd mewn datganiad i’r wasg gan y Llywodraeth, a oedd yn cyfeirio at bwysigrwydd yr adolygiad, ac roedd yn cwestiynu felly a oedd y cyhoeddiad yn fwy addas ar ffurf datganiad llafar.
Diolchodd y Llywydd i’r Aelod am ei Bwynt o Drefn, a nododd er bod busnes y Llywodraeth yn fater i Weinidogion Cymru, maent hwy yn atebol i’r Cynulliad. Nododd ei disgwyliad na ddylai Gweinidogion Cymru danseilio’r egwyddor honno drwy wneud cyhoeddiad polisi pwysig y tu allan i’r Siambr, fel bod yr Aelodau’n cael cyfle i graffu. Manteisiodd y Llywydd ar y cyfle i atgoffa’r Aelodau o gyfleoedd eraill sydd ar gael iddynt ddod â materion i’r Siambr os bydd y Llywodraeth yn methu â gwneud hynny, a’u gallu i wneud sylwadau am fusnes arfaethedig y Llywodraeth drwy’r Pwyllgor Busnes.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Dechreuodd yr eitem am 15.28
Gwnaeth Mike Hedges ddatganiad i nodi 150 mlynedd ers Undeb Bedyddwyr Cymru.
Gwnaeth David Melding ddatganiad ar ganmlwyddiant y Llu Awyr Brenhinol.
Dechreuodd yr eitem am 15.31
Dechreuodd yr eitem am 15.46
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio
NDM6707 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru – Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl – yw'r trydydd cynnig mewn tair blynedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.
2. Yn nodi hefyd fod yr awdurdodau lleol yn gweithio tuag y trefniadau rhanbarthol a gyflwynwyd gan ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
3. Yn gresynu fod y cynnig diweddaraf wedi achosi cyfnodau parhaus o ansicrwydd i gynghorau a'u staff rheng flaen.
4. Yn pryderu am y natur o'r brig i'r bôn gyson o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, fel y dangosir gan y diffyg ymgysylltiad ystyrlon ag arweinwyr cynghorau a Phrif Weithredwyr wrth baratoi'r papur hwn, yn ogystal ag absenoldeb dadansoddiad strategol o’r costau a’r manteision ar y cynigion blaenorol i ddiwygio llywodraeth leol.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
0 |
37 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl - sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gynaliadwy.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
21 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
5 |
4 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6707 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru - Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl - sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gynaliadwy.
3. Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
8 |
13 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6706 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
1 |
40 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.
2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
1 |
9 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6706 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.
2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
1 |
9 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.39
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio
NDM6709 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailsefydlu’r grant ar gyfer gwisg ysgol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r grant gwisg ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei le sy’n gweddu’n well i anghenion dysgwyr difreintiedig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6709 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gael gwared â’r grant gwisg ysgol a chyflwyno polisi mwy hyblyg yn ei le sy’n gweddu’n well i anghenion dysgwyr difreintiedig.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
26 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 19.11 a gohiriwyd y cyfarfod gan ailgynnull am 19.16 ar gyfer y cyfnod pleidleisio.
Dechreuodd yr eitem am 19.20
NDM6708 David Rees (Aberafan)
Gwead cymdeithasol a lles cymunedau’r cymoedd yn y dyfodol
Daeth y cyfarfod i ben am 19.43
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 1 Mai 2018